Swyddi Pererindod: Wexford
Swyddi Perenindod: Sir Benfro
Llawn amser, cyfnod penodol tan fis Gorffennaf 2023, gyda’r potensial i ddod yn barhaol.
Cyflog: c. €25,000 / c. £21,000 p.a.
Lleoliad: Gweithio gartref, gan deithio i Wexford neu Sir Benfro
Dyddiad Cau: 3 Ionawr 2022
Ymunwch â’n tîm prosiect penodol fel Swyddog Pererindod, a helpwch ni i ddatblygu a chyflwyno prosiect Llwybr Aeddan a Dewi Sant. Mae hon yn rhaglen newydd a ariennir gan Cysylltiadau Hynafol a fydd yn cysylltu Ferns yn Wexford, â Thyddewi yn Sir Benfro, drwy ailddychmygiad modern o lwybr pererindod Sant Aeddan. Cewch gyfle proffesiynol prin i ysbrydoli pobl, pererinion, cymunedau a busnesau i fanteisio ar bererindod. Bydd y llwybr pererindod yn creu etifeddiaeth barhaol ar gyfer y ddwy gyrchfan ryfeddol hon drwy adfywio cymunedau, denu pererinion a chreu traddodiad diwylliannol modern hirdymor.
Rydym yn chwilio am ddau berson arbennig sy’n adnabod yr ardal a’i phobl yn dda, i ddylunio a chyflwyno rhaglen bererindod lawn ac ysbrydoledig drwy ymgysylltu â phobl o bob cymuned, ac adeiladu gweithgaredd cymunedol a dan arweiniad gwirfoddolwyr.
Pwrpas y rôl:
Datblygu a chyflwyno prosiect Llwybr Aeddan a Dewi Sant naill ai yn Wexford neu Sir Benfro. Rydym yn chwilio am unigolion hynod frwdfrydig ac effeithiol i weithio fel rhan o’n tîm, a fydd yn cynllunio ac yn cyflwyno rhaglen weithgareddau pererindod lawn ac ysbrydoledig, gan ymgysylltu â phobl o bob cymuned, ac adeiladu gweithgaredd cymunedol a dan arweiniad gwirfoddolwyr er mwyn sefydlu ac ymgorffori pererindod mewn cymunedau ar hyd y llwybr.
Amcanion allweddol
- Sicrhau lefelau priodol o gymorth seilwaith ar hyd y llwybr, megis cyfleusterau hanfodol, monitro llwybrau, arwyddbyst ac ati.
- Cynyddu nifer y pererinion sy’n cerdded y llwybr, gan gynnwys cymunedau lleol, rhai o ymhellach i ffwrdd a rhai o amrywiaeth o gefndiroedd.
- Sicrhau lefel gadarn o fudd o bererindod, gwella llesiant cyfannol unigolion yn y gymuned a sicrhau profiad o ansawdd uchel ar gyfer pererinion sy’n ymweld.
- Datblygu rhaglen wirfoddoli i gyflwyno agweddau craidd y prosiect a gweithredu fel llysgenhadon lleol ar gyfer Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain (BPT) a Pilgrim Paths Ireland.
- Cefnogi mentrau codi arian drwy fanteisio ar gyfleoedd wrth iddynt godi, recriwtio mwy o Ffrindiau a chreu partneriaethau newydd.
- Datblygu a chyflwyno rhaglen o ymgysylltu cymunedol llwyddiannus sy’n meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y prosiect yn y cymunedau lleol, gan eu galluogi i gyfranogi’n weithredol.
- Gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol, rhanddeiliaid a phrosiectau sy’n bodoli eisoes, i ymgymryd â gweithgareddau, ymgynghoriadau ac ymgyrchoedd sy’n cyfrannu at sefydlu’r llwybr, y traddodiad pererindod modern a’i fanteision cymunedol.
- Cyfrannu at eiriolaeth gymunedol a chynllunio etifeddiaeth y prosiect, gan alluogi’r gymuned leol i barhau i ymgysylltu â brwdfrydedd â’r prosiect, ei ganlyniadau a’i grymuso i barhau â gweithgareddau pererindod yn y tymor hir.
Amdanoch chi
Bydd gennych hanes o gyflwyno prosiectau’n llwyddiannus, gyda greddf ar gyfer ymgysylltiad cymunedol ystyrlon, meithrin perthnasoedd a chyfleoedd gwirfoddoli. Yn hunan-gymhellol ac a1 sgiliau trefnu da, gydag angerdd gwirioneddol dros gynnwys eraill yn eich gwaith, bydd gennych ymagwedd arloesol tuag at oresgyn heriau. Byddwch yn gallu cefnogi hyn gyda sgiliau ymarferol megis defnyddio ystod o raglenni TG gan gynnwys WordPress, rheoli iechyd a diogelwch, a rheoli prosiectau’n rhagorol. Os yn bosibl, byddwch yn adnabod yr ardal a’i phobl yn dda, a bydd gennych ddealltwriaeth ac empathi â’r diwylliant, yr hanes, yr hunaniaeth a’r iaith leol.
Dyddiad cau: 3 Ionawr 2022
Cynhelir cyfweliadau ar 13 a 14 Ionawr 2022
I drafod y rolau hyn yn fanylach, cysylltwch â dawn@britishpilgrimage.org